Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 16 Mawrth 2022
Amser:
09.30
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Lleu Williams
Clerc y Pwyllgor
0300 200 6565
SeneddDiwylliant@senedd.cymru
------
Cofrestru cyn y cyfarfod
(09.00-09.30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
(09.30)
2 Gwrandawiad cyn penodi Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru
(09.30-10.15) (Tudalennau 1 - 50)
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 4, 5, 6 a 9
(10.15)
4 Ôl-drafodaeth breifat
(10.15-10.30)
5 Trafod y Cylch Gorchwyl drafft ar gyfer ymchwiliad yn y dyfodol i Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg a dull ar gyfer gweithio ar y cyd
(10.30-10.50) (Tudalennau 51 - 63)
6 Adroddiadau diweddar ar anghydfodau mewnol yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru
(10.50-11.00) (Tudalennau 64 - 65)
Egwyl
(11.00-11.15)
Cyhoeddus
7 Ymchwiliad i gymryd rhan mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig: Sesiwn dystiolaeth gyda Chwaraeon Cymru
(11.15-12.15) (Tudalennau 66 - 79)
Brian Davies, Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro
Owen Hathway, Cyfarwyddwr Cynorthwyol - Dirnadaeth, Polisi a Materion Cyhoeddus
Briff ymchwil
Tystiolaeth ysgrifenedig gan Chwaraeon Cymru
8 Papurau i’w nodi
(12.15)
8.1 Llythyr ar y cyd gan Weinidog yr Economi a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch gwaith craffu ar Gyllideb Ddrafft Lywodraeth Cymru 2022-23: Diwylliant, Cyfathrebu a Chwaraeon
(Tudalennau 80 - 85)
8.2 Llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch gwaith craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23: Y Gymraeg
(Tudalennau 86 - 94)
8.3 Llythyr gan y Prif Weinidog at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch gwaith craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23: Cysylltiadau rhyngwladol
(Tudalennau 95 - 97)
8.4 Gohebiaeth gan Dr Caitriona Noonan ynglŷn â chau’r Gronfa Cynnwys Cynulleidfaoedd Ifanc
(Tudalennau 98 - 100)
9 Ôl-drafodaeth breifat
(12.15-12.30)